Un tro roedd yna gawr o'r enw Bendigeidfran yn teyrnasu dros Brydain.Enw ei chwaer oedd Branwen ac yr oedd ganddo frawd o'r enw Efnisien.
Roedd Matholwch, Brenin Iwerddon ar y llong. Daeth mewn heddwch acroedd yn dymuno priodi Branwen. Roedd eisiau creu cyfeillgarwch rhwngy ddau dir. Rhoddodd Bendigeidfran ei ddymuniad i'r Brenin aphenderfynodd gynnal parti mawr i ddathlu eu priodas!
Fi yw Branwen, dwi'n hardd a ffeind. Brawd fi yw chwaer Bendigaedfran
Roedd pawb mewn hwyliau da! Roedd yna ddawnsio, canuadigonofwyd blasus! Fodd bynnag, roedd un dyn ar goll o'r wledd, Efnisien.Roedd yn genfigennus ac yn ddig fod Bendigeidfran wedi cytuno i'rbriodas heb ofyn am ei ganiatad. Penderfynodd frifo holl geffylau BreninIwerddon drwy dorri eu clustiau.
gwelodd Bendigeidfran rywbeth yn y mor Tair olongau yn dod yn syth i'w gyfeiriad o Iwerddon. Meddyliodd tybed bethoeddent ei angen. Cerddodd yn araf i lawr i gwrdd â nhw.
Ond, nid yw'r stori wedi gorffen! Roedd y Gwyddelod wedi clywed am yrhyn a wnaeth ei brawd Efnisien i'r ceffylau. Cafodd Branwen ei thrin ynddifrifol ar ôl hyn; roedd rhaid iddi weithio yn y gegin a chael ei chosbi ambeth wnaeth ei brawd. Cafodd ei charcharu ac nid oedd yn cael gweld eimab bach.
Diolchodd Matholwch iddo am ei rodd. Y diwrnod nesaf, hwylioddMatholwch a Branwen i Iwerddon. Roedd Branwen yn drist wrth adaelCymru, ond roedd wedi gwirioni ac mewn cariad â Matholwch. CafoddBranwen ei thrin yn dda yn y blynyddoedd cyntaf o'u priodas a rhoddoddenedigaeth i fachgen bach hyfryd o'r enw Gwern.
Ni allai Bendigeidfran gredu'r hyn oedd ei frawd wedi ei wneud. Ceisioddymddiheuro i Matholwch a rhoddodd geffylau newydd yn lle'r rhai a oeddwedi eu hanafu. Rhoddodd un anrheg arbennig hefyd iddo sef pair hud!Roedd gan y crochan bwerau arbennig a allai ddod â'r meirw yn ôl yn byw
Gwelodd dynion Matholwch Bendigeidfran a'i longau yn dod yn y pellter.Penderfynodd y Gwyddelod dorri'r bont a oedd yn croesi'r afon.Dywedodd y cawr wrth ei fyddin, "A fo ben bid bont. Gadewch i mi fod ynbont". Defnyddiwyd ei gorff fel pont, rhedodd ei ddynion ar drawsBendigeidfran i achub Branwen.
Pan gwelodd o y Gwyddelod Bendigeidfran a'i ryfelwyr yn dod, penderfynodd Matholwch chwarae tric ar Bendigeidfran. Roeddent wediadeiladu neuadd ddigon mawr i groesawu Bendigeidfran i'w tir.Defnyddiodd y neuadd fel trap. Gosododd fagiau mawr tu mewn i'rneuadd. Fodd bynnag, ym mhob bag roedd rhyfelwr yn cuddio yn barodam frwydr. Roedd brawd Bendigeidfran, Efnisien yn amau fod rhywbetho'i le a daeth o hyd i ryfelwr yn un o'r bagiau. Lladdodd ef a darganfodmai Gwern, ei nai oedd o! Taflodd Efnisien Gwern i'r tân. Torrodd frwydrffyrnig allan rhwng y ddwy ochr!
aeth Branwen ddrudwy gyda neges i'w brawd Bendigeidfran. Roeddy neges yn dweud i fo sut yr oedd hi'n cael ei tritio. RoeddBendigeidfran yn flin! Casglodd ei longau cyflymaf, ei ryfelwyr a'ifrodyr i fynd i achub ei chwaer.
Nath Bendigeidfran eistedd ar y llawr wrth ymyl ei ddynion. Gofynnodd i'wddynion i dorri ei ben i ffwrdd a'i roi yn lundain, gan wynebu Ffrainc.Roedd yn credu y byddai hyn yn cadw unrhyw ymwelwyr eraill diangen iffwrdd.
Cafodd lawer o ddynion eu lladd. Ond, defnyddiodd Matholwch ei bairhud i ddod â'i filwyr yn ôl yn fyw! Er mwyn atal hyn rhag digwydd,neidiodd Efnisien i mewn i'r pair. Yn y diwedd, dim ond saith o ddynion oGymru oedd ar ôl. Yn anffodus, cafodd Bendigeidfran ei anafu ganwaywffon wenwynig yn ystod y frwydr.
Rhwyfodd Branwen a'r saith o ddynion yn ôl i'w chartref yng Nghymru,gyda phen Bendigeidfran. Roedd calon Branwen wedi ei thorri am byth acroedd yn gweld bai arni hi ei hun am bopeth.